Ein Tîm

Mr Wyn Lloyd
Mae Mr Wyn Lloyd, perchennog y Cwmni, efo mwy na 40 mlynnedd o brofiad yn y diwidiant trafnidiaeth, gan gychwyn ei yrfa efo Mid Wales Motorways (Y Drenewydd) yn ôl yn 1979 fel prentis mecanydd, cyn symud ymlaen efo’r cwmni i fod yn fecanydd/gyrrwr.
Yn ystod mis Mawrth 1983 cychwynodd weithio i Crosville fel gyrrwr, gan hefyd rhoi cymorth fel mecanydd yn y depo yn Nolgellau.
Tra’n gweithio i Crosville/Crosville Wales Ltd symudodd ymlaen yn ei yrfa a thrwy’r rhengoedd, i fod yng ngofal y depo yn Machynlleth.
Yn ystod yr amser yma, medrodd ddatblygu rhwydwaith o fysiau lleol ar gyfer Machynlleth, trwy ei nifer gysylltiadau yn yr ardal. Hefyd, yn ystod yr amser yma, cychwynwyd ei drefniant hirsefydlog efo Central Trains, i ymgymeryd ag unrhyw waith “Rail Replacement” ar fyr rybudd mewn amser argyfwng. Roedd hyn yn golygu gweithio oriau hir ag anodd.
O 2001 i 2011, o dan arweiniad Mr Lloyd, fe ehangodd y Cwmni y gwasanaethau yn Nyffryn Dyfi ac ardal Dysynni ac yna o 2012 i’r presennol, mae’r Cwmni wedi ehangu’r rhwydwaith ymhellach ar ran Trawscymru, fel ei fod nawr yn cwmpasu Gogledd Orllewin a Gogledd Dwyrain Cymru, lawr i Canolbarth Cymru, ynghyd a gwasanaethau yn ardal Dinbych a Rhuthun ac hefyd lawr mor bell a Llanbed yn y De.
Heddiw, mae Wyn Lloyd yn rhedeg un o gwmnîau bws a choets mwyaf Cymru.

Mr Daniel Lloyd
Rheolwr Cyffredinol
Dan yw mab Wyn ac fe gychwynodd efo’r Cwmni rhyw 10 mlynnedd yn ôl, ar ôl bod yn gweithio fel peirianydd mecanyddol yn y Drenewydd. Ers hynny, mae wedi ennill profiad helaeth trwy yrru coets i bob cwr o’r Deyrnas Unedig ac mae nawr yn gweithio yn y prif Swyddfa ac yn ymgymeryd a swydd y Rheolwr Cyffredinol, ynghyd a un o’r Goruwchwylwyr Traffig hefyd.