Amryw o swyddi Ar Gael Yn Y Cwmni, Ar Gyfer Pobl Profiadol a Phroffesiynol.
O bryd i’w gilydd mae gennym ni swyddi ar gael yn y cwmni, ar gyfer pobl brofiadol a phroffesiynol.
Mae croeso I chi hefyd gyrri ebost I : info@lloydscoaches.com neu wrth alw 01654 702100
Various vacancies available in the company, for experienced & professional people.
Fel tîm o fobl proffesiynol, ‘rydym yn darparu:
Various vacancies available in the company, for experienced & professional people.
Mae Lloyds Coaches yn neilltio’r hawl i gysylltu a’ch cyflogwr blaenorol ac hefyd dyfarnwr/dyfarnwyr, ar ol derbyn eich cais.
Bydd cyflogaeth efo Lloyds Coaches yn seiliedig ar argaeledd i weithio ac i dri mîs cychwynol o gyfnod prawf.
Bydd gweithwyr y Cwmni yn cadw at reolau llawlyfr gweithwyr y Cwmni ac hefyd canllawiau presennol sy’n ymwneud a gyrru/iechyd a diogelwch/arferion gwaith.
Mae gwybodaeth a dderbynir yn hollol gyfrinachol.
Ar ôl derbyn ceisiadau, bydd holl ymgeiswyr addas yn cael eu gofyn i gyfweliad fydd yn cynnwys asesiad prawf gyrru byr, er mwyn asesu addasrwydd. Os gofynnir chi i gyfweliad, bydd angen dod a’ch trwydded gyrru, cerdyn CPC, tystysgrif DBS a Thacograff Digidol (os ar gael).
Bydd rhaid i holl ymgeiswyr llwyddianus fod yn medru gweithio fel rhan o dîm ac ar pen ei hunain a chan ymddwyn yn broffesiynol, tra’n cynrychioli’r Cwmni.
Dylai darpar ymgeiswyr gwbwlhau a dychwelid ffurflen gais y Cwmni, ynghyd â C.V. presennol, un ai ar ebost neu trwy’r post.
Dylai ceisiadau am swyddi PCV hefyd cynnwys manylion cymhwyster CPC a manylion DBS.
Ein ebost yw: info@lloydscoaches.com a dylir ei cyfeirio at Mr Dan Lloyd.
Ein cyfeiriad busnes yw Lloyds Coaches, Old Crosville Garage, Doll Street, Machynlleth, Powys SY20 8BH, er sylw Mr Dan Lloyd.
Ar gyfer ymholiadau cychwynnol, ffoniwch 01654 702100 a gofynnwch am Mr Dan Lloyd.
Os ydech am weithio efo cwmni sy’n broffesiynol ac yn edrych i’r dyfodol, mae croeso i chi gysylltu ar info@lloydscaches.com, ffonio ar 01654 702100 neu cwbwlhau a gyrru ffurflen gais cyflogaeth i ni ar gyfer ystyriaeth yn y dyfodol. Hefyd, bydd angen gyrru CV cyfredol efo’ch cais.
Os bydd swyddi addas yn dod fyny yn y dyfodol, byddwn yn eu cymryd i ystyriaeth fel ceisiadau.
Bydd rhaid i unrhyw ymgeisydd llwyddianus fod yn dal trwydded yrru PCV dilys a bod yn gallu gweithio yn unigol, gan gynrychiolu y Cwmni mewn ffordd bositif drwy gyfathrebu effeithiol efo’r cyhoedd.
Medrwch hefyd gyflwyno eich cais yng Nghymraeg ar info@lloydscoaches.com
Ceir manylion pellach ynglyn a chymhwyster CPC drwy glicio YMA
Ceir manylion pellach ynglyn a DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) drwy glicio YMA